📍 Swansea, Wales • Posted 9h ago

Darlithydd Plymwaith - Rhan Amser

🇬🇧 United Kingdom💰 £11,290 - £22,221 /yr💼 College / University📂 Colleges & Universities
Offered Salary£11,290 - £22,221 /yr
Job TypeCollege / University
Location / Work ModeSwansea, Wales
Sector / CategoryColleges & Universities
💱 Estimated Compensation Breakdown Est. ≈ $21,279 USD/yr
Monthly Pay£1,396 / mo
Bi-Weekly Pay£644 / 2-wk
Hourly Rate£8.06 / hr
Sponsored LinkPromoted Career Matching

Role Overview & Responsibilities

Mae cyfle wedi codi i unigolyn profiadol, dawnus a brwdfrydig ymuno â’r tîm Amgylchedd Adeiledig. Mae’r adran Amgylchedd Adeiledig yn uchelgeisiol ac mae gennym weledigaeth glir ar gyfer darparu ac ysbrydoli. Taith addysgol y myfyriwr yw’r peth pwysicaf i ni. Fel adran, rydym yn addasu’n barhaus i gadw i fyny â diwydiant sy’n esblygu ac yn gweithio tuag at agenda ‘werdd’.

Bydd y Darlithydd Plymwaith 0.5 yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno ystod eang o strategaethau addysgu, dysgu ac asesu, yn ogystal â monitro cynnydd dysgwyr a darparu adborth effeithiol trwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu yn flaenoriaeth allweddol i Goleg Gwyr Abertawe.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebwr hyderus, yn frwdfrydig ac yn ymrwymedig i ysbrydoli ac annog dysgwyr i wireddu eu potensial. Bydd gennych sgiliau trefnu a datrys problemau da iawn a byddwch yn barod i weithio’n hyblyg. Bydd gennych gymhwyster Lefel 3 mewn plymwaith a byddai meddu ar gymhwyster addysgu yn ddymunol, ond nid yw hyn yn hanfodol. Os nad oes gennych gymhwyster addysgu byddwn yn eich cefnogi i ennill TAR.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Cyflog: £21,506 - £42,326 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.

Share this Job Opening

Help colleagues and network connections discover this verified vacancy.

Sponsored LinkPromoted Career Matching

Interested in this role at Gower College Swansea?

Apply directly through the verified employer application pipeline.

Similar Positions You May Like

Explore more roles matching your background in Colleges & Universities